We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Y Sguthan - Joseph Lloyd, Caradog Puw

from O'r Archif: Caneuon Gwerin by Archif Sain Ffagan

/
  • Streaming + Download

    Includes high-quality download in MP3, FLAC and more. Paying supporters also get unlimited streaming via the free Bandcamp app.
    Purchasable with gift card

      name your price

     

about

Recordiwyd pennill 1-3 gan Joseph Lloyd (gyrwr lori, g. 1896) a Charadog Puw (ffermwr, g. 1922), Trefaldwyn. Cododd Joseph Lloyd y gân pan oedd tua 14 oed, o glywed ei chanu gan Ellis Gittins, Llanwddyn.

'The Wood Pigeon'

Verses 1-3 recorded by Joseph Lloyd (lorry driver, b. 1896) and Caradog Puw (farmer, b. 1922), Montgomery. Joseph Lloyd picked up the song when he was around 14 years old, from hearing it sung by Elliss Gittins, Llanwddyn.

lyrics

Y Sguthan (the wood pigeon)

Mi adroddaf i chwi bwt o stori,
Mi driaf fynd yn drwstan trosti.
Ond chwaith ni ddwedaf on y gwir,
Y gwir a saif, dim ond y gwir.

Am ddan lanc ifanc o’r plwy yma
Ryw noson aethant ffwrdd i hela;
Aeth un â’i wn a’r llal â’i gi.
Gael bod yn siwr o ddal y pry.

Fe gododd un i fyny ei ben,
Fe welodd sugthan ar y pren:
“Wel cydia di yng ngwar y ci
Rhag ofn ddo fynd o fy ngafael i”.

Wel, siarjo’r gwn wnaeth ar ôl hynny
A bacio’n ôn gael lle i ‘nelu,
A’r llall yn crynu wrth fôn y pren
Rhag ofn i’r siots fyn oddeutu ei ben.

Pan aeth yr ergyd gyntaf allan
Mi oedd na dwrw megis taran,
A rhedeg wnaent i’r lle a’r fan
Rhag ofn i’r ci gael mwy na’i ran.

Pan adawsant gynta geg y ci,
Wel, adref aethant hwy â hi,
A gofyn wnaent i wraig y ty
A wnâi ei chwcio am ei phlu.

A gwraig y ty, pan aeth i blue,
Fe glywai rywbeth yn ogluo,
A gofyn wnaeth i deulu’r ty
A glywent hwy ryw olau cry.

‘Nôl i wraig y ty gael gwybod y cyfan,
Mai wedi trifo’r oedd y sguthan
Ac wedi sythio i fforch y pren,
Nis gallai lai na chodi ei phen.

‘Roedd weri mynd yn ôl ei phris,
‘Roedd wedi trio ers pedwar mis,
A’r llanciau gadd eu siomi’n siwr,
A’u swper hwy oedd brwes ddwr.

credits

from O'r Archif: Caneuon Gwerin, released August 14, 2015
Joseph Lloyd, Caradog Puw

license

all rights reserved

tags

about

Archif Sain Ffagan Cardiff, UK

contact / help

Contact Archif Sain Ffagan

Streaming and
Download help

Redeem code

Report this track or account

If you like Archif Sain Ffagan, you may also like: