We’ve updated our Terms of Use to reflect our new entity name and address. You can review the changes here.
We’ve updated our Terms of Use. You can review the changes here.

Galarnad Cwch Enlli - William Jones

from O'r Archif: Caneuon Gwerin by Archif Sain Ffagan

/
  • Streaming + Download

    Includes high-quality download in MP3, FLAC and more. Paying supporters also get unlimited streaming via the free Bandcamp app.
    Purchasable with gift card

      name your price

     

about

Recordiwyd pennill 11 gan William Jones (gof, g. 1906), Aberdaron. Clywodd y gân gan ei daid, a oedd yn byw ym Mhen Llyn ar hyd ei oes.

'The Bardsey Boat Lament'

Verse 11 recorded by William Jones (blacksmith, b. 1906), Aberdaron. He heard the song from his grandfather, who lived on the Llyn peninsula.

lyrics

Galarnad Cwch Enlli

Clywais waedd dros ddygnfor helo -
Tristlawn gri o Enlli oedd -
Gwaedd uwch rhuad gwynt ysgeler
A mawr flinder môr a’i floedd;
Gwaedd y gweddwon a’r amddifaid,
Torf o weiniaid: darfu oes
Gwyr a thadau yn y tonnau,
Llynnau, creigiau, llanw croes.

Y dydd olaf o fis Tachwedd,
Oer ei wedd gan are wynt,
Un mil wyth gant a dwy ar hugain
Y bu sain wrth’nebus hyn,
Aeth cwch esgud dan ei hwyliau,
Cedyrn daclau, gorau gwaith,
O Borth Meudwy tuag Enlli
Hyd y lli’ rhuadwy llaith.

Ye oedd ugain o bersonau
A meddiannau gorau gwerth
Yn y cwch pan troesant allan
Gyda’r lan, lle syfrdan serth;
Penycil iddynt fu gysgodol
Orllewinol noddol nawdd;
Deheoul safn y Swnt cyrhaeddent,
Heibio hwylient, ni bu hawdd.

Wele, golau haul a giliai,
Lleuad godai, llwyd ei gwawr,
Gwynt o duedd y gorllewin,
Goflin ddrycin, erwin awr;
Y môr, megis pair berwedig.
Tra chwyddedig, trechai ddawn
Y môr-ddynion. Pwy amgyffred
Hyd a lled eu lludded llawn?

Môr trochionllyd a therfysglyd,
Cyhwfanllyd acw fu;
Tonnau cedyrn dyrchafedig,
Ffyrnig ddymchweledig lu;
Uwch ei ruan na tharanau
Neu swn gynnau maes y gwaed;
Y fath dymestl, fyth, at Enlli,
Ynys heini, na nesaed!

Dacw’r cwch bron iawn yn noddfa
Diogelfa cuddfa’r Cafn;
Dacw Angau yn agoryd
Ei gas enbyd wancus safn;
Ef ar dir a môr sy’n gapten
Hen - i ben y myn ei bwnc;
Iddo ef mae pawb yn gydradd,
Baidd eu lladd, y bedd a’u llwnc.

Hyd rhaff angon prin oedd rhyngddo
Fo â lanio yn ei le
Pan, mewn cymysg derfysg dirfawr,
Trawodd lawr ar graig fawr gre’;
Ei ochr ddrylliwyd gan y dyrnod,
Erchyll drallod, archoll drist;
Dyled pawb yw gwylio beunydd-
O mor ddedwydd crefydd Crist!

Pahan, awel, y cynhyrfi?
Ti, os plygi y supply
A dinistrio llong mor fechan,
Llid a thuchan, gogan gei;
Tafl y creigiau i’r rhyferthwy,
Gwasgar hwy, ruadwy wynt;
Bydd i’r llongau’n gynorthwyoll
Cei dy ganmol, haeddol, hynt.

Gweision ydyw’r gwynt a’r tonnau
Yn cwblhau, yn ddiau, ddeddf
Ac ewyllys eu Creawdwr;
Swr Ei gryfdwr sy’n eu greddf;
Pann dywedo ‘Byddwch wrol!’,
Yn ôl Ei nerthol air hwy wnânt;
Os rhaid gyda pheri adfyd
Foddi hefyd, ufuddhant.

Sugnwyd chwech i safn Marwolaeth,
A Rhagluniaeth yn rhoi glan
I bedwar dyn ar ddef ohonynt-
Da fu’r helynt, Duw fo’u rhanl
Yn ôl eu dawn, i feibion dynion
Mae’r fath droeon chwerwon chwith
Yn arddangos yn dra golau
Y daw Angau ymhob rhith.

Thomas Williams, y llong-lywydd,
Heddiw sydd a dydd ei daith,
Hyd ei yrfa, wedi darfod
Ar y gwaelod, oera’ gwaith;
A’i ferch Sidney yr un ffunud,
Yr un munud, i’r un manl
Hyll i hon oedd golli’i heinioes,
Garw loes, wrth gwr y lan.

Pe rhyw les fuasai dyfais,
Anian ymgais, dyn a’i nerth,
Ni threngasai Ellis Gruffudd
Yn y cystudd tonnog certh.
Na Dafydd Thomas o Bantfali
Yn yr heli anwar hallt;
Taflai’r môr rai llai eu hawgrym,
Yn nydd ei rym, i nawdd yr allt.

Cyrff y pedwar uchod cafwyr
A derbyniwyd gan dy’r bedd;
Tua hwn mae pawb a’u trafael -
O mor wael yw marw wedd!
Mae Ty, er datod y daearol,
Eto’n ôl gan ddwyfol ddawn
I’r cyfiawnion: cânt o’r beddrod,
Ddydd i ddod, ollyngdod llawn.

Ond John Jones a William Williams,
Enwau dinam, sy’n y don;
Am hyn mae chwanegol gystudd,
Och! llwyr brudd, uwch llawer bron;
Yno’u hesgyrn a wasgerir:
Cesglir, dygir, hwy bob darn
Pan can’r utgorn uwch yr eigion,
‘Codwch, feirwon! Dewch i farn!’

Tad trugarod llawn addfwynder,
Dy wir dyner arfer yw
Llwyr fendithio dyrys droeon
Er rhybuddion i’r rhai bywl
Gwna i’r gweddill a adawyd
Fyw yn d’arswyd a’th ofn dwys,
A Gair dwyfol boed eu rheol
Gydwybodol yn gyd-bwys.

Cafodd gweddwon gennyt ddigon
O’th fendithion, rhoddion rhad;
Ti i’r gwâr amddifaid gwirion
Fuost ffyddlon dirion Dad;
Bord i’r un drugaredd eto
Fuan wawrio, addfwyd wedd;
Gweddwon ac amddifaid Enlli
Gaffo’i phrofi hi a’i hedd.

Dryw’r holl ynys treiddied sobrwydd,
I’th Air, llwydd a rhwydd fawrhad;
Tyn ei phobl i’r wir ymgeledd
O fewn hedd y Cyfiawnhad;
Boad eu gweddi hwy bob ennyd
Pan ar hyd terfysglys fôr;
‘Arglwydd, ar y gwynt a’r tonnau,
Cau dy ddyrnau, cadw ddôr’.

Tro galonnau gwyr y llongau
Trwy holl barthau bannau byd
I gydnabod ac i gredu
Mai Ti sy’n meddu’r gallu i gydl
Dangos iddynt nad oes noddfa,
Diogelfa, ond y Gwr
A wyr rif y sêr a’u henwau,
Rhif a phwysau’r dafnau dwr.

credits

from O'r Archif: Caneuon Gwerin, released August 14, 2015
William Jones

license

all rights reserved

tags

about

Archif Sain Ffagan Cardiff, UK

contact / help

Contact Archif Sain Ffagan

Streaming and
Download help

Redeem code

Report this track or account

If you like Archif Sain Ffagan, you may also like: