O'r Archif: Caneuon Gwerin

by Archif Sain Ffagan

supported by
/
  • Streaming + Download

    Includes high-quality download in MP3, FLAC and more. Paying supporters also get unlimited streaming via the free Bandcamp app.

      name your price

     

1.
2.
3.
4.
5.
6.
7.
8.
9.
10.
11.
12.

about

Casgliad o ganeuon gwerin o Gymru, a gasglwyd gan Roy Saer. Maen nhw'n cael eu cadw yn archif Sain Ffagan, Amgueddfa Werin Cymru, ger Caerdydd.

A collection of folk songs from Wales, collected by Roy Saer. They're kept at the archive at St Fagans National History Museum, near Cardiff, Wales.

credits

released August 14, 2015

Casglwyd gan: Roy Saer
Meistrwyr, trawsgrifwyd a pharatowyd: Meinwen Ruddock-Jones

Collected by: Roy Saer
Mastered, transcribed and prepared by: Meinwen Ruddock-Jones


Delwedd glawr - cover art:
John Bryant, Mine Agent, Hirwaun
Attributed to W J Chapman (c. 1835)

Cedwir pob hawl - all rights reserved © Amgueddfa Cymru National Museum Wales

tags

license

all rights reserved

about

Archif Sain Ffagan Cardiff, UK

contact / help

Contact Archif Sain Ffagan

Streaming and
Download help

Redeem code

Track Name: Bwmba - John Thomas
Pan oeddwn gynt yn fachgen,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Heb feddwl gwaeth nag amgen,
Fe rois fy mryd ar ferched glân
Er mwyn hala’r byd yn llawen

O’r diwedd mi briodes
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Â’r lana’ ferch a weles;
Fe fuase’n well imi, wir ddyn byw,
Briodi â Gwyddeles.

Ni fedre weu na gwinio,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Na golchi’n lân na smwddo,
Na chwiro patshyn ar fy mritsh,
Fe haedder’r bitsh ei chico.

Ni fedre derwyn dafe’
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Na medru cwiro sane,
Ond un peth fedrei’n eitha da,
Sef gweitho twmplins fale.

Fe gane wrth fynd i’r gwely,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Fe lefe beth wrth godi;
Eistedde lawr yn ochor tân,
Fuse awr ddim byd iddi grafu.

A phan ddawe amser brecwast,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Yn byta fydde’r hen folgast:
Yr wye a’r pancocs bobo’n ail -
A finne â masned sopas.

Rhys fore penderfynes,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
I siarad â’r hen lodes:
Os na fuse’n altro’r drefen hon,
Fuse raid iddi gal y gwes.

Ond ‘Thank you, Miss’, daeth Ange,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Ymaflodd yn ei sodle:
Fe ath â’r bitsh i mas o’r byd -
Y very thing oedd eisie.

Cyn bo hir dechreues garu,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
 merch 'rhen Dwm Siôn Cati;
'Roedd hon yn debyg iawn i'r llall-
Ac felly fe gas lony'.

Priodi wnes i wedyn,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Â’r hen Siân fwyn o’r Felion;
Yr oen ni’n byw, mae’n eitha gwir,
More hapus â dou dderyn.

Holl fechgyn teidi’r cwmni,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Cymerwch gyngor gen i:
Gofalwch fod yn ben ar y wraig
Ar ôl i chwi briodi.
Track Name: Cân yr Ysprydion - Edith Edwards
Cân yr Ysprydion

Mi es pan oeddwn fechan,
At Siôn y Gof i’r Gellan,
I mofyn harn at dorri mawn,
Ar ryw brynhawn fy hunan.
Sing di wac ffol di ridldi rai,
Ffol di ridldi ai-do.

Roedd Wil a Lewys Leyshon,
Yn gwella bachau crochon,
A Siorsi Wil a Sioni Sam
Yn siarad am ysbrydion.
Sing di wac ffol di ridldi rai,
Ffol di ridldi rai-do.

Sôn am Wrach y Rhibyn,
Y Tylwyth Teg a’r Goblyn,
A rhyw gyhyraeth drwg ei nad
A gadwai’r wlad mewn dychryn.
Sing di wac ffol di ridldi rai,
Ffol di ridldi rai-do.

Dath Wiliam Puw o’r Feiln
A Nel i mewn dan chwethin,
Wrth sôn am ysbryd Mari Mwm
Yn dilyn Twm Penderyn.
Sing di wac ffol di ridldi rai,
Ffol di ridldi rai-do.

‘Roedd ysbryd Siân yn cribo
A byddu dan ei dwylo,
Ac ysbryd Georgie bach Penhill,
Ac ysbryd Wil yn siafo.
Sing di wac ffol di ridldi rai,
Ffol di ridldi rai-do.

‘Reodd ysbryd Bilo’r Bwtsiwr
Yn croesi pont Caslwchwr
Yn peri dychryn i’r holl wlad
Wrth ddilyn Deio’r Badwr.
Sing di wac ffol di ridldi rai,
Ffol di ridldi rai-do.

Fe welwyd ysbryd milgi
Ar ael y bryn yn croesi,
Ac ysbryd gwas y Gelli Thorn
Ag ysbryd corn yn canu.
Sing di wac ffol di ridldi rai,
Ffol di ridldi rai-do.

Mae weithiau ysbryd angladd -
Y mawr a’r bach yn gydradd -
Ac ysbryd moch yn cadw swn,
Ac ysbryd cwn yn ymladd.
Sing di wac ffol di ridldi rai,
Ffol di ridldi rai-do.

Ac ysbryd gwraig mewn urddas
Yn prynu ysbryd canfas;
Ac ysbryd plân a bwyell sar,
Ac ysbryd sgwâr a chmpas.
Sing di wac ffol di ridldi rai,
Ffol di ridldi rai-do.

Ac ysbryd rhai yn cychwyn
I wneuthur ysbryd coffin,
Ynghydag ysbryd hir ei gam
Yn rhedeg am y cortyn.
Sing di wac ffol di ridldi rai,
Ffol di ridldi rai-do.
Track Name: Y Sguthan - Joseph Lloyd, Caradog Puw
Y Sguthan (the wood pigeon)

Mi adroddaf i chwi bwt o stori,
Mi driaf fynd yn drwstan trosti.
Ond chwaith ni ddwedaf on y gwir,
Y gwir a saif, dim ond y gwir.

Am ddan lanc ifanc o’r plwy yma
Ryw noson aethant ffwrdd i hela;
Aeth un â’i wn a’r llal â’i gi.
Gael bod yn siwr o ddal y pry.

Fe gododd un i fyny ei ben,
Fe welodd sugthan ar y pren:
“Wel cydia di yng ngwar y ci
Rhag ofn ddo fynd o fy ngafael i”.

Wel, siarjo’r gwn wnaeth ar ôl hynny
A bacio’n ôn gael lle i ‘nelu,
A’r llall yn crynu wrth fôn y pren
Rhag ofn i’r siots fyn oddeutu ei ben.

Pan aeth yr ergyd gyntaf allan
Mi oedd na dwrw megis taran,
A rhedeg wnaent i’r lle a’r fan
Rhag ofn i’r ci gael mwy na’i ran.

Pan adawsant gynta geg y ci,
Wel, adref aethant hwy â hi,
A gofyn wnaent i wraig y ty
A wnâi ei chwcio am ei phlu.

A gwraig y ty, pan aeth i blue,
Fe glywai rywbeth yn ogluo,
A gofyn wnaeth i deulu’r ty
A glywent hwy ryw olau cry.

‘Nôl i wraig y ty gael gwybod y cyfan,
Mai wedi trifo’r oedd y sguthan
Ac wedi sythio i fforch y pren,
Nis gallai lai na chodi ei phen.

‘Roedd weri mynd yn ôl ei phris,
‘Roedd wedi trio ers pedwar mis,
A’r llanciau gadd eu siomi’n siwr,
A’u swper hwy oedd brwes ddwr.
Track Name: Galarnad Cwch Enlli - William Jones
Galarnad Cwch Enlli

Clywais waedd dros ddygnfor helo -
Tristlawn gri o Enlli oedd -
Gwaedd uwch rhuad gwynt ysgeler
A mawr flinder môr a’i floedd;
Gwaedd y gweddwon a’r amddifaid,
Torf o weiniaid: darfu oes
Gwyr a thadau yn y tonnau,
Llynnau, creigiau, llanw croes.

Y dydd olaf o fis Tachwedd,
Oer ei wedd gan are wynt,
Un mil wyth gant a dwy ar hugain
Y bu sain wrth’nebus hyn,
Aeth cwch esgud dan ei hwyliau,
Cedyrn daclau, gorau gwaith,
O Borth Meudwy tuag Enlli
Hyd y lli’ rhuadwy llaith.

Ye oedd ugain o bersonau
A meddiannau gorau gwerth
Yn y cwch pan troesant allan
Gyda’r lan, lle syfrdan serth;
Penycil iddynt fu gysgodol
Orllewinol noddol nawdd;
Deheoul safn y Swnt cyrhaeddent,
Heibio hwylient, ni bu hawdd.

Wele, golau haul a giliai,
Lleuad godai, llwyd ei gwawr,
Gwynt o duedd y gorllewin,
Goflin ddrycin, erwin awr;
Y môr, megis pair berwedig.
Tra chwyddedig, trechai ddawn
Y môr-ddynion. Pwy amgyffred
Hyd a lled eu lludded llawn?

Môr trochionllyd a therfysglyd,
Cyhwfanllyd acw fu;
Tonnau cedyrn dyrchafedig,
Ffyrnig ddymchweledig lu;
Uwch ei ruan na tharanau
Neu swn gynnau maes y gwaed;
Y fath dymestl, fyth, at Enlli,
Ynys heini, na nesaed!

Dacw’r cwch bron iawn yn noddfa
Diogelfa cuddfa’r Cafn;
Dacw Angau yn agoryd
Ei gas enbyd wancus safn;
Ef ar dir a môr sy’n gapten
Hen - i ben y myn ei bwnc;
Iddo ef mae pawb yn gydradd,
Baidd eu lladd, y bedd a’u llwnc.

Hyd rhaff angon prin oedd rhyngddo
Fo â lanio yn ei le
Pan, mewn cymysg derfysg dirfawr,
Trawodd lawr ar graig fawr gre’;
Ei ochr ddrylliwyd gan y dyrnod,
Erchyll drallod, archoll drist;
Dyled pawb yw gwylio beunydd-
O mor ddedwydd crefydd Crist!

Pahan, awel, y cynhyrfi?
Ti, os plygi y supply
A dinistrio llong mor fechan,
Llid a thuchan, gogan gei;
Tafl y creigiau i’r rhyferthwy,
Gwasgar hwy, ruadwy wynt;
Bydd i’r llongau’n gynorthwyoll
Cei dy ganmol, haeddol, hynt.

Gweision ydyw’r gwynt a’r tonnau
Yn cwblhau, yn ddiau, ddeddf
Ac ewyllys eu Creawdwr;
Swr Ei gryfdwr sy’n eu greddf;
Pann dywedo ‘Byddwch wrol!’,
Yn ôl Ei nerthol air hwy wnânt;
Os rhaid gyda pheri adfyd
Foddi hefyd, ufuddhant.

Sugnwyd chwech i safn Marwolaeth,
A Rhagluniaeth yn rhoi glan
I bedwar dyn ar ddef ohonynt-
Da fu’r helynt, Duw fo’u rhanl
Yn ôl eu dawn, i feibion dynion
Mae’r fath droeon chwerwon chwith
Yn arddangos yn dra golau
Y daw Angau ymhob rhith.

Thomas Williams, y llong-lywydd,
Heddiw sydd a dydd ei daith,
Hyd ei yrfa, wedi darfod
Ar y gwaelod, oera’ gwaith;
A’i ferch Sidney yr un ffunud,
Yr un munud, i’r un manl
Hyll i hon oedd golli’i heinioes,
Garw loes, wrth gwr y lan.

Pe rhyw les fuasai dyfais,
Anian ymgais, dyn a’i nerth,
Ni threngasai Ellis Gruffudd
Yn y cystudd tonnog certh.
Na Dafydd Thomas o Bantfali
Yn yr heli anwar hallt;
Taflai’r môr rai llai eu hawgrym,
Yn nydd ei rym, i nawdd yr allt.

Cyrff y pedwar uchod cafwyr
A derbyniwyd gan dy’r bedd;
Tua hwn mae pawb a’u trafael -
O mor wael yw marw wedd!
Mae Ty, er datod y daearol,
Eto’n ôl gan ddwyfol ddawn
I’r cyfiawnion: cânt o’r beddrod,
Ddydd i ddod, ollyngdod llawn.

Ond John Jones a William Williams,
Enwau dinam, sy’n y don;
Am hyn mae chwanegol gystudd,
Och! llwyr brudd, uwch llawer bron;
Yno’u hesgyrn a wasgerir:
Cesglir, dygir, hwy bob darn
Pan can’r utgorn uwch yr eigion,
‘Codwch, feirwon! Dewch i farn!’

Tad trugarod llawn addfwynder,
Dy wir dyner arfer yw
Llwyr fendithio dyrys droeon
Er rhybuddion i’r rhai bywl
Gwna i’r gweddill a adawyd
Fyw yn d’arswyd a’th ofn dwys,
A Gair dwyfol boed eu rheol
Gydwybodol yn gyd-bwys.

Cafodd gweddwon gennyt ddigon
O’th fendithion, rhoddion rhad;
Ti i’r gwâr amddifaid gwirion
Fuost ffyddlon dirion Dad;
Bord i’r un drugaredd eto
Fuan wawrio, addfwyd wedd;
Gweddwon ac amddifaid Enlli
Gaffo’i phrofi hi a’i hedd.

Dryw’r holl ynys treiddied sobrwydd,
I’th Air, llwydd a rhwydd fawrhad;
Tyn ei phobl i’r wir ymgeledd
O fewn hedd y Cyfiawnhad;
Boad eu gweddi hwy bob ennyd
Pan ar hyd terfysglys fôr;
‘Arglwydd, ar y gwynt a’r tonnau,
Cau dy ddyrnau, cadw ddôr’.

Tro galonnau gwyr y llongau
Trwy holl barthau bannau byd
I gydnabod ac i gredu
Mai Ti sy’n meddu’r gallu i gydl
Dangos iddynt nad oes noddfa,
Diogelfa, ond y Gwr
A wyr rif y sêr a’u henwau,
Rhif a phwysau’r dafnau dwr.
Track Name: Peth Mawr Ydi Cariad - M M Williams
Peth mawr ydy cariad pan elo fo’n drwm.
Peth gyrrodd gryn lawer o’u llefydd i ffwrdd:
Peth gyrrodd fi fy hunan oedd geiriau fy nhad,
A’m mam, oedd yn garedig, a’r gyrrodd i o’m gwlad.
To mi wec ram-di dw-dl al-i dal ffol-a di-dl al-i do.

‘Mi fynnaf gael dy gladdu a’th roddi di dan bridd
Cyn cei di briodi; mi’th claddaf di yn wir.
Rhof dorchen ar dy wyneb a charrag uwch dy ben
Cyn cei di fartsio’n gorffyn, wel, gyda’r feinir wen’.
To mi wec ram-di dw-dl al-i dal ffol-a di-dl al-i do.

Pan glywais innau hynny es gyda man-i-wâr,
Bûm hefoi am saith mlynedd heb weld na thad na mam;
Saith mlynedd wedi pasio pan ddois i i Gymru’n ôl,
Gan dybied yn fy nghalon fach na fyddwn i byth mor ffôl.
To mi wec ram-di dw-dl al-i dal ffol-a di-dl al-i do.

At dy fy nhad mi gerddais, lle bûm i lawer tro,
A phawb oedd yno’n llawen yn fy nghweld yn dod yn ôl;
Awr nos a ddaeth yn brysur, a’m meddwl gyda mi,
At dy yr hogen annwyl cyfeiriais yn bur hy.
To mi wec ram-di dw-dl al-i dal ffol-a di-dl al-i do.
Track Name: Y Bardd a'r Gwcw - William Jones
O’r gwcw fach lwyd-las,
Lle buoes ti cyd
Mor hir heb ddychwelyd?
Ti fuost yn fud
Mor hir heb ddychwelyd?
Ti fuost yn fud.

Y Gwcw:
O peidiwch camsynied a meddwl mor ffôl,
Yr oerwynd o’r gogledd a’m dialiodd i’n ôl.

Fy amser i ganu yw Ebrill a Mai
A hanner Mehefin, chwi wyddoch, bob rhai.

Ffarwel i chwi leni, ffarwel i chwi oll,
Cyn y delwyf i yma nesa bydd miloedd ar goll.

Bydd llawer merch ifanc yn isel ei phen
Cyn y delwydd i yma nesa i roi caniad ar bren.
Track Name: Os Daw Nghariad Yma Heno (1) - Ellen Ellis, Rhian Ellis
Os daw fy nghariad i yma heno,
yma heno, yma heno.
Os da fy nghariad i yma heno
i guro’r gwydr glas

Rhowch ateb gweddus iddo,
Gweddus iddo, gweddus iddo.
Rhow ateb gewddus iddo.
Na thebwch mono’n gas.

Nad ydyw’r ferch ddim gartref,
Y Ferch ddim gartref, y ferch ddim gartref,
Nad ydyw’r ferch ddim garfref, na’i hwyllys yn y ty;
Llanc ifanc o blwy arall,
O blwy arall, o blwy arall,
Llanc ifanc o blwy arall sydd wedi mynd â hi.
Track Name: Os Daw Nghariad Yma Heno (2)
Os daw fy nghariad i yma heno,
yma heno, yma heno.
Os da fy nghariad i yma heno
i guro’r gwydr glas

Rhowch ateb gweddus iddo,
Gweddus iddo, gweddus iddo.
Rhow ateb gewddus iddo.
Na thebwch mono’n gas.

Nad ydyw’r ferch ddim gartref,
Y Ferch ddim gartref, y ferch ddim gartref,
Nad ydyw’r ferch ddim garfref, na’i hwyllys yn y ty;
Llanc ifanc o blwy arall,
O blwy arall, o blwy arall,
Llanc ifanc o blwy arall sydd wedi mynd â hi.
Track Name: Si So Gorniog - Llew Evans
Si so, gorniog,
Ennill tair ceiniog:
Ceiniog i mi a cheiniog i ti
A cheiniog i Siôn am fenthyg y lli'.

Si so, gorniog,
Dal tair sgwarnog;
Deunaw i mi a deunaw i ti
A deunaw i Twm am fenthyg y ci.
Track Name: Y Gaseg Ddu - Bertie Stephens
Mi es i ffair Henfeddau,
Mi brynais gaseg ddu,
A phunt a rois amdani,
A mawr y ngholled i.
Tyri-yff, tyr-i yff, tyri dal.
Tyri-yff, tyri-i yff, tyri dal.
A mawr fy ngholled i.

Fe fwydais i’r hen gaseg,
A dwr a cheirch a bran,
Nes aeth yn hen greadur
Rhy dew i symud cam.
Tyri-yff, tyr-i yff, tyri dal.
Tyri-yff, tyri-i yff, tyri dal.
Rhy dew i symud cam.

Fe drigodd yr hen gaseg,
A’i chalon oedd fel dwy,
A ‘ngadael i pryd hynn
Heb allu prynu mwy.
Tyri-yff, tyr-i yff, tyri dal.
Tyri-yff, tyri-i yff, tyri dal.
Heb allu prynu mwy.

Fe ddaeth y brain a’r piod
I ofyn am brid y cif;
Fe ddwedodd un pioden,
‘Mae’n ddigon i ni i gyd!’
Tyri-yff, tyr-i yff, tyri dal.
Tyri-yff, tyri-i yff, tyri dal.
‘Mae’n ddigon i ni i gyd!’

Chwi bobol nawr sy’n gwrando,
Yn fawrion ac yn fân,
Er mwyn cael caseg arall,
Rhowch geiniog am y gân.
Tyri-yff, tyr-i yff, tyri dal.
Tyri-yff, tyri-i yff, tyri dal.
Rhowch geiniog am y gân.
Track Name: Y Fenyw Fain - William Rowlands
Trafaeliais i dre Llundain,
Do, do, hefyd drefydd mawr,
Do, do, hefyd Sbaen a Sgotland,
Do, to, hefyd Sbaen a Sgotland, do,
Do, do, hefyd Sbaen a Sgotland, do,
I chwilio am fenyw fain.

Roedd yn ei chorff yn gymwys,
Ac yn ei gwast yn fain,
O, a’i dwylo bach cyn wynned,
O, a’i dwylo bach cyn wynned, O
 blodau pigau’r drain.

Ar ôl i ni briodi,
Caerl dau o blantws bach;
Fe fydd un yn uwch na’r gadair,
Fe fydd un yn uwch na’r gadair, O,
A’r llall yn damaid bach.
Track Name: Ffarwel Fo i Langyfelach Lon - Bertie Stephens
Ffarwel fo i Langyfelach lon,
A’r merched ieuainc i gyd o’r bron;
Rwy’n mynd i dreio pa un sydd well,
Ai ngwlad fy hun neu’r gwledydd pell.

A martsio wnes i yn y blaen
Nes imi ddod i dre Pont-fawn,
Ac yno roeddent, yn fawr eu sbort,
Yn listio’r gwyd at y Duke of York.

Mi drois fy mhen ac i ryw dy,
Yr aur a’r arian oedd yno’n ffri,
Y drymas a’r ffeiffs yn cario’r swn-
A listio wnes at y Light Dragoon/

‘Rôl imi fartsio i Lundain fry
Diwti caled ddaeth arnom ni,
Sef handlo’r dryll a’r cleddyf north,
Y bwlets plwm a’r powdwr poith.

Fe ddaeth despatch yn fore iawn,
A daeth un arall y prynhawn,
For yr English fleet yn hwylio i ma’s
I frwydr dros y moroedd glas.

Farwél fy nhad a’m hannwyl fam,
Sydd wedi’m magu a’m dwyn i’r lan
Yn dyner iawn ar aelwyd lân,
A chan ffarwél fo i’r merched glân.

Os hold rhai pwy wnaeth y gân,
Atebwch hwy mai merch fach lân
Sydd yn gweddio nos a dydd
Am i’w hannwyl gariad gael dod yn rhydd.

‘Rôl imi aros amser hir,
Yn rhydd y daeth, ‘rwy’n dweud y gwir;
Dychwelodd ef i’w fro ei hun,
Ces roddi cusan ar ei fin.

Fe ddaeth ag arian ganddo’n stôr
O’r gwledydd pell tu draw i’r môr,
A’r cyntaf peth a wnaeth o’i serch
Oedd chwilio am ei annwyl ferch.

Offeieiad alwyd yno’n glau
I’n rhwymo ni yn un ein dau:
Cawn fyw mewn llwyddiaetn drwy ein his,
A chysgar rhwng ei freichiau’r nps.

Cymerwch gyngor, ferched llon,
Os aiff eich cariad dros y don;
I beidio rhodio’n wamal ffôl,
On byddwch driw nes try yn ôl.

Mi gefais gynnig lawer gwaith,
Do, ar gariadon, chwech neu saith,
Ond, coeliwch fi, ‘roedd ganmil gwell
Im gofio’r mad yn y gwledydd pell.

Fe aeth â’m calon gydag e,
Ond eiddo’i hun rodd yn ei lle,
A deddf atyniad cariad cyn
A wnaeth ein clonnau bach yn un.