Recordiwyd gan Bertie Stephens (bridiwr cwn hela, g. 1900), Llangeitho. Mae'r rhythm curo ar y bwrdd yn dynwared swn y 'felin ban' (melin pannu gwlân). Clywodd y gân hon yng nghyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf gan 'Dai Arian Drwg' - dyn a werthai watsys mewn ffeiriau.
'The Black Mare'
Recorded by Bertie Stephens (hunting dog breeder, b. 1900), Llangeitho. The rhythm he beats on the table is mimicking a 'felin ban' or fulling mill. He heard this song at the time of the First World War, sung by 'Dai Arian Drwg' ('Bad Money Dai') who sold watches in fairs.
lyrics
Mi es i ffair Henfeddau,
Mi brynais gaseg ddu,
A phunt a rois amdani,
A mawr y ngholled i.
Tyri-yff, tyr-i yff, tyri dal.
Tyri-yff, tyri-i yff, tyri dal.
A mawr fy ngholled i.
Fe fwydais i’r hen gaseg,
A dwr a cheirch a bran,
Nes aeth yn hen greadur
Rhy dew i symud cam.
Tyri-yff, tyr-i yff, tyri dal.
Tyri-yff, tyri-i yff, tyri dal.
Rhy dew i symud cam.
Fe drigodd yr hen gaseg,
A’i chalon oedd fel dwy,
A ‘ngadael i pryd hynn
Heb allu prynu mwy.
Tyri-yff, tyr-i yff, tyri dal.
Tyri-yff, tyri-i yff, tyri dal.
Heb allu prynu mwy.
Fe ddaeth y brain a’r piod
I ofyn am brid y cif;
Fe ddwedodd un pioden,
‘Mae’n ddigon i ni i gyd!’
Tyri-yff, tyr-i yff, tyri dal.
Tyri-yff, tyri-i yff, tyri dal.
‘Mae’n ddigon i ni i gyd!’
Chwi bobol nawr sy’n gwrando,
Yn fawrion ac yn fân,
Er mwyn cael caseg arall,
Rhowch geiniog am y gân.
Tyri-yff, tyr-i yff, tyri dal.
Tyri-yff, tyri-i yff, tyri dal.
Rhowch geiniog am y gân.
A stunning album of finger-picked guitar, banjo & more that mines the classic sound of Appalachia and emerges with something fresh. Bandcamp New & Notable Jul 30, 2018
A fascinating, appealing record no less “weird” than the rest of her oeuvre, but certainly the most weirdly versatile. Bandcamp Album of the Day Mar 25, 2022
The British-Somali poet draws upon everything from leftfield folk to minimalist spoken-word, bound together by simple-yet-cutting wordplay. Bandcamp New & Notable Apr 28, 2021
Australian singer-songwriter explores self-examination, loneliness, and post-pandemic malaise through delicate, empathetic folk pop. Bandcamp New & Notable May 5, 2024